Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2019

Amser y cyfarfod: 13.30
 


247(v4)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit)

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

David Rees (Aberafan) A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1000 o swyddi yn y DU?

 

Gofyn i’r Prif Weinidog

Leanne Wood (Rhondda): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r bygythiad i ddinasyddion Cymru yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener diwethaf?

 

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

 

</AI3>

<AI4>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI4>

<AI5>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal

(30 munud)

NDM7210 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2019.

Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Medi 2019.

 

</AI5>

<AI6>

6       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Eiddo Gwag

(60 munud)

NDM7212 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Eiddo gwag', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd 2019.

 

</AI6>

<AI7>

7       Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol

(60 munud)

NDM7213 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i'r: Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2019.

Sylwer: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 27 Tachwedd 2019.

 

</AI7>

<AI8>

8       Dadl Plaid Cymru -  Brexit a Chytundeb au Masnach yn y Dyfodol

(60 munud)

NDM7214 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi:

a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;

b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;

c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.

2. Yn credu:

a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;

b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;

c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;

d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau

e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.

3. Yn galw am:

a) i seneddau datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig;

b) i Aelodau Seneddol o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;

c) ddiddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.

3. Yn croesawu'r cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE.

4. Yn cydnabod, o dan y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros gytuniadau rhyngwladol.

5. Yn cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2  ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw am:

a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.

b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.

Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.

</AI8>

<AI9>

9       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

10    Dadl Fer - Ni chyflwynwyd cynnig

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2019

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>